Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod a Thrais yn erbyn Menywod a Phlant
Cross Party Group on Women & Violence Against Women and Children
Dydd Gwener 19 Ionawr, 10.00-11.00 (drwy Teams)
Cofnodion
Yn bresennol |
Ymddiheuriadau |
Siân Gwenllian AS Sioned Williams AS Jessica Laimann, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM) Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru Leah Reed, Prifysgol Caerdydd Victoria Vasey, RhCM Maddie Darlington, RhCM Alisa Stevens Andrea Cooper, Comisiynydd Pobl Hŷn Sarah Thomas, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched Yr Athro Jackie Jones, Grŵp Menywod yn Ewrop (Cymru) Megan Evans, RhCM Stephanie Grimshaw, Cymorth i Ferched Cymru R Roberts Evelyn James, RhCM Helen Churcher Patience Bentu, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Race Equality First Steve Williams, Chwaraeon Cymru Shivangi Jane Fenton-May, Cynulliad Merched Cymru Rob Jones Dr Alison Parken, Prifysgol Caerdydd Abigail Rees, Barnardo’s Andrew Belcher, Stori Cymru Bryn Hall, Clinks Johanna Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Tina Fahm, Bawso Megan Thomas, Anabledd Cymru Hade Turkmen, Oxfam Cymru Victoria Pledger Kate Williams, Prifysgol De Cymru Alison Parken, Prifysgol Caerdydd
|
Heledd Fychan AS Delyth Jewell AS Llyr Gruffydd AS Carmel Boston, Prifysgol Caerdydd Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Bwrdd RhCM Kate Jones, Thrive Women’s Aid
|
Eitem |
Yn arwain |
12:00-12:05 Croeso, cyflwyniad ac ymddiheuriadau
· Croeso · Ymddiheuriadau · Atgoffwyd pawb am y ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd a’r cyfarwyddiadau · Esboniwyd yr agenda
|
Siân Gwenllian AS
|
Mabwysiadu’r Cod Ymddygiad
1. Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod · Darllenwyd y cod ymddygiad · Cefnogwyd gan Anabledd Cymru · Pleidlais: cefnogwyd gan aelodau’r Grwp Trawsbleidiol ar Fenywod
2. Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant · Pleidlais: cefnogwyd gan aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant
|
Jessica Laimann, RhCM
Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru
|
Profiad Menywod Cymru yn y System Carchardai
Y cefndir: · Canfyddiadau rhagarweiniol gwaith ymchwil PhD sy'n edrych ar brofiadau menywod o Gymru mewn carchardai yn Lloegr · Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n parhau i fod yn gyfrifol am Gymru a Lloegr. Pan drafodir y System Cyfiawnder Troseddol, mae Lloegr yn parhau i gael mwy o sylw na Chymru. · Oherwydd rôl datganoli, mae Cymru'n cael ei hystyried yn wahanol. Nid yw dyletswyddau Llywodraeth Cymru yn cynnwys plismona na chyfiawnder troseddol ond mae rheolaeth dros bolisi cymdeithasol yn allweddol i lunio hunaniaeth datganoli yng Nghymru. · Mae gan system cyfiawnder troseddol Cymru ganlyniadau cymharol wael. Cymru sydd â’r gyfradd uchaf ond un o ran carcharu menywod o blith yr holl ranbarthau lle caiff hyn ei fesur, ac mae rhagamcanion Llywodraeth y DU yn disgwyl i'r gyfradd barhau i godi. Cymru sydd â’r cyfraddau carcharu uchaf ond dau o blith holl wledydd Gorllewin Ewrop. · Er gwaetha'r ystadegau hyn, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru. Mae menywod o Gymru ym mhob carchar yn Lloegr, ac mae pob menyw sy’n cael ei charcharu ‘y tu allan i’w rhanbarth’ 101 o filltiroedd o'i chartref ar gyfartaledd. · Mae menywod yn cael eu carcharu i raddau helaeth am droseddau di-drais, gyda 23% yn cael eu carcharu am fis neu lai. Mae mwy na 77% o'r menywod hyn yn cael eu carcharu am lai na blwyddyn. · Gwnaed rhywfaint o waith empirig â’r nod o geisio deall profiadau pobl o Gymru sydd yn y carchar. Dangoswyd eu bod yn anweledig mewn dwy ffordd: nid yw menywod o Gymru yn cael sylw i raddau helaeth mewn sgyrsiau ac mae Cymru yn cael ei hanwybyddu yn gyffredinol. · Mae menywod o Gymru yng Ngharchar Eastwood Park yn wynebu problemau penodol yn ymwneud ag ymweliadau gan eu plant ac mae dynion o Gymru wedi sôn am broblemau’n ymwneud â mynediad i'r Gymraeg, hunaniaeth, gwahaniaethu a’r pellter o’u cartefi. · Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, gwaned cais i’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a'r Cyngor Ymchwil Cenedlaethol i gyfweld â menywod o Gymru sydd yn y carchar ond fe'i gwrthodwyd ar y sail ei fod yn 'dyblygu gwaith ymchwil'. · Cyflwynwyd Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ond ni chafwyd ateb eto, mae'n anghynaladwy dibynnu ar hyn. Mae wir angen sicrhau bod data penodol i Gymru wedi’u dadgyfuno ar gael. · Gofynnodd Leah a allai unrhyw un helpu gyda mynediad at ddata neu bobl sydd â phrofiad personol.
Canfyddiadau Cychwynnol y Gwaith Ymchwil: · Mae menywod yn profi colledion sylweddol cyn, yn ystod ac ar ôl cael eu carcharu, y mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â cham-drin domestig yn gyfredol ac yn ystod eu plentyndod, salwch meddwl, a chamddefnyddio sylweddau. Mae'r carchar yn ychwanegu at y colledion hyn. · Mae darparu gwasanaethau 'ar wahân' tra bydd menywod yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau yn effeithio ar y gefnogaeth sydd ar gael, yn enwedig pan fydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn mynd yn groes i wasanaethau datganoledig. · Mae bod yn bell o gartref yn gwaethygu problemau sy'n gysylltiedig â bod yn y carchar e.e. iechyd meddwl, diffyg ymweliadau gan deulu a phlant a chynnal cyswllt ystyrlon.
|
Leah Reed, Ymchwilydd PhD, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd |
Trafodaeth a chwestiynau gan y gynulleidfa
· SG: ydych chi'n credu mai aildroseddu yw’r rheswm, yn rhannol, mai ni sydd â’r gyfradd garcharu uchaf ond un yn Ewrop? o Ddim yn siŵr ond mae’r lefelau aildroseddu yn arwyddocaol. · JM: mae rhagdybiaeth yn y Bil Dedfrydu yn erbyn dedfrydau byr, beth fydd goblygiadau hynny yn eich barn chi ac ydych chi'n credu bod unrhyw beth arall y gallem fod yn galw amdano? o Teimlo bod hyn wedi cael ei grybwyll sawl gwaith ond does dim byd byth yn newid. Mae addewidion wedi cael eu gwneud, ond mae’r cyfraddau carcharu’n codi, felly amser a ddengys · VV: oes unrhyw ddata gan fenywod o Gymru sy’n cael eu cadw ar remánd a beth yw effeithiau cael eu dal ar remánd ymhell i ffwrdd o'r llys? o Ddim yn credu bod gennym ddata ar hyn. Mae'n anodd cyfweld â menywod tra byddant yn y carchar ac yn anoddach nodi’r rhai sydd ar remánd ond mae astudiaethau achos o'r gwaith hwn lle mae menywod yn sôn am bellter o'r llys ac effaith hynny. · BH: mae’n bwysig tynnu sylw at yr anawsterau yn sgil y ffaith nad oes data ar wahân ar gael ar gyfer Cymru. Cysylltwch â ni am help a chymorth. · PB: teimlo nad oes awydd i ofyn am garchardai menywod yng Nghymru, ond o ystyried bod gennym rai o'r cyfraddau uchaf o fenywod yn y carchar ac effaith y pellter hwnnw ar iechyd meddwl menywod, sut allwn ni fynd i'r afael â'r her hon? o Mae angen bod yn fwy creadigol a meddwl am y darlun ehangach. Mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn yno am droseddau di-drais felly a oes angen iddynt fod yn y carchar neu a allem ystyried adsefydlu cymunedol effeithiol? · JR: mae taith bywyd menywod yn dangos bod cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r lefel y mae hynny’n digwydd eto yn arwyddocaol. Dim ond drwy dreulio cyfnod hirach yn y carchar y gall menywod gymryd rhan mewn rhaglenni, a dim ond wedyn y bydd rhai menywod yn teimlo eu bod yn gallu manteisio ar gymorth ac ailgysylltu â'u plant. · Cyfeirodd JR at ymgynghoriad y cyngor dedfrydu ar ddedfrydau carchar a dedfrydau cymunedol: https://www.sentencingcouncil.org.uk/news/item/imposition-of-community-and-custodial-sentences-guideline-to-be-revised/ · JFM: galw am rannu gwybodaeth yn well ar draws gwasanaethau cyhoeddus. A yw’r gyfradd garcharu’n uwch yng Nghymru oherwydd diffyg cyllid ar gyfer rhaglenni cymorth amgen yng Nghymru? · KW: gallwn ddysgu llawer o'r ffordd y llwyddodd cyfiawnder ieuenctid i leihau’r boblogaeth garchardai yng Nghymru. Dylai'r Cyngor Dedfrydu fod yn edrych ar Gymru ac yn gosod rheolau gwahanol i fenywod. Mae arnom angen dewisiadau amgen hyfyw y gall llysoedd fod yn hyderus ynddynt fel y gallant roi'r gorau i ddefnyddio’r carchar. · SW: Roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi clywed bod diffyg gwybodaeth am y glasbrint troseddwyr benywaidd ymhlith ynadon sy'n cynnwys llawer o'r materion a drafodwyd heddiw. A yw eich ymchwil wedi cyffwrdd â hyn neu a ydych chi wedi siarad ag ynadon? · SW: mae pwyntiau data wedi cael eu trafod o'r blaen a gwnaethant drafod cael arsyllfa uned ddata ar gyfer cyfiawnder troseddol a'r gwahaniaeth y byddai’n ei wneud pe bai gennym hyn yng Nghymru – a allech chi ddweud pam? · LR: mae ynadon yn fater sy’n parhau i godi mewn darnau eraull o ymchwil academaidd, ac mae diffyg gwybodaeth yn aml. Byddai o blaid yr arsyllfa ond tynnodd sylw at waith Dr Rob Jones ar hyn.
· SG: a ddylem ysgrifennu at 4 Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru yn esbonio pam y mae angen y data hyn arnom?
· SG: mae angen i ni ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd felly a ddylid anfon llythyr at arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn nodi'r dadleuon o blaid ac yn gofyn eu barn ar hyn.
|
Cam gweithredu: llythyr
Cam gweithredu: llythyr
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Menywod yn Ewrop (Cymru)
· Mae llywyddiaeth bresennol yr UE, sef Gwlad Belg, yn edrych ar hawliau dynol cenhedlaeth gyntaf, democratiaeth a hawliau dynol, trosglwyddo’r llywyddiaeth i Hwngari ym mis Gorffennaf a phryderon ynghylch hawliau menywod. · Mabwysiadodd Senedd yr UE adroddiad ar buteindra, gan symud rhywfaint yn nes at y model Nordig/Cydraddoldeb wrth i etholiadau Senedd yr UE ym mis Mai agosáu. · Symud tua'r dwyrain. Albania, Bosnia, Herzegovina, Moldofa, Georgia, Montenegro, Gogledd Macedonia, Serbia, Wcráin a Thwrci i gyd yn gwneud cais am aelodaeth a fydd yn newid y pwyslais. · Pwyllgor GREVIO yn dod i archwilio Cymru yr wythnos nesaf.
|
Yr Athro Jackie Jones
Cam gweithredu: JM i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am GREVIO yng nghyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod
|
Unrhyw fater arall
· Mae 100 diwrnod wedi mynd heibio bellach ers dechrau bombardiad Gaza. Gwyddom fod llawer o erchyllterau wedi cael eu cyflawni yn erbyn menywod a phlant. Cynigiodd SW ddrafftio llythyr at Lywodraeth y DU yn galw am gadoediad ar unwaith.
· Mae cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol ar Fenywod wedi’i drefnu ar gyfer 15 Mawrth 10:00-11:00
· Mae cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod wedi’i drefnu ar gyfer 15 Mawrth 11:00-12:00
|
Cam gweithredu: SW i ddrafftio llythyr |